Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl

Ers 2001, mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl wedi bod yn arwain Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl – gan ddod â’r DU ynghyd i ganolbwyntio ar gael iechyd meddwl da.

Eleni, cynhelir yr wythnos rhwng Mai 12 a 18 Mai 2025 a’r thema yw ‘cymuned’.

Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl am ddefnyddio’r Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl hon i ddathlu pŵer a phwysigrwydd cymuned.

Mae bod yn rhan o gymuned ddiogel, gadarnhaol yn hanfodol i’n hiechyd meddwl a’n lles. Rydym yn ffynnu pan fydd gennym gysylltiadau cryf â phobl eraill a chymunedau cefnogol sy’n ein hatgoffa nad ydym ar ein pennau ein hunain. Gall cymunedau ddarparu ymdeimlad o berthyn, diogelwch, cefnogaeth mewn amseroedd caled, a rhoi synnwyr o bwrpas i ni.

Darganfyddwch fwy yma