
02.05.2025 |
Cyfleoedd Ariann
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Sefydliad y Teulu Ashley
Mae Sefydliad Teulu Ashley (Sefydliad Laura Ashley gynt) yn elusen gofrestredig yn y DU, a sefydlwyd gan Syr Bernard Ashley a’i wraig Laura Ashley yn dilyn llwyddiant brand Laura Ashley.
Mae Sefydliad Teulu Ashley yn arbennig o awyddus i ariannu gwaith yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru, lle cafodd cwmni ‘Laura Ashley’ effaith sylweddol ar yr economi leol a llesiant cymdeithasol ei bobl, drwy’r cynnydd yn y cyfleoedd am cyflogaeth ac ysbryd tîm gwerthfawr y gweithlu.
Ochr yn ochr â hyn, mae Sefydliad Teulu Ashley yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan brosiectau celfyddydol a chymunedol ar raddfa fach yng Nghymru ac yn croesawu cynigion gan amgueddfeydd/sefydliadau cymunedol.
I Siroedd: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Powys. Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg a Wrecsam
Y Grantiau sydd ar gael
Gall sefydliadau wneud cais am grantiau o £500 – £10,000.
Pwy all ymgeisio?
Elusennau, sefydliadau anghorfforedig a grwpiau cymunedol â chyfansoddiad neu gylch gorchwyl a phwrpas elusennol.
Dyfernir cyllid i brosiectau yn seiliedig ar fudd a gwerth, ac ystyrir pob prosiect unigol yn ô lei rinwedd ei hun.
Sut i ymgeisio?
Dylid cyflwyno ceisiadau yn uniongyrchol drwy’r wefan, The Ashley Family Foundation.
- Maent yn ffafrio ceisiadau gan sefydliadau y mae eu hincwm yn is na £2m. .
- Maent yn ariannu ceisiadau hyd at £10,000 ac sy’n cynrychioli o leiaf 10% o holl gost y prosiect.
- Maent yn ariannu argymhellion am refeniw, nid ceisiadau am gyfalaf.