
09.05.2025 |
Cynlluniau Talebau
Yn gyffredinol, roedd cynlluniau talebau yn cael eu defnyddio cyn cyflwyno’r opsiwn Gofal Plant Di-dreth, fel ffurf o aberth cyflog.
Gallai gweithwyr dalu am dalebau i ariannu eu ffioedd Gofal Plant mewn lleoliadau Gofal Dydd a Chlwb All-Ysgol, cyn iddyn nhw dalu Treth ar eu cyflog (Aberth Cyflog).
Yn wreiddiol, roedd y talebau hyn yn gopïau papur, ond daeth yn daliadau trosglwyddiad banc, a broseswyd yn electronig drwy ddarparwr talebau.
Oeddech chi’n gwybod y gellir cofrestru eich Clwb All-Ysgol i dderbyn talebau gan rieni i helpu nhw i dalu am eu ffioedd?
Roedd yna, ac mae yna dal nifer o ddarparwyr, lle gall Clybiau Gofal Plant All-Ysgol cofrestru ag er mwyn cael taliad am ffioedd.Gall teuluoedd a oedd â chyfrif cyn lansio’r Cynllun Gofal Plant Di-dreth gan CThEM ym mis Ebrill 2017 barhau i ddefnyddio’r taliadau hyn fel Taliadau Gofal Plant. Fodd bynnag, roedd yn ofynnol i unrhyw un newydd gofrestru ar gyfer y Cynllun Gofal Plant Di-dreth.
Achos i feddwl… gall teuluoedd sydd â chyllid talebau ond nad ydynt yn sylweddoli y gellir defnyddio’r cyllid hwn ar gyfer Gofal Plant All-Ysgol i blentyn hyd at 15 oed, yn ddibynol ar amodau a thelerau’r darparwr, elwa ar y cyfle hwn.
Gall rhoi cymorth i deuluoedd i hygyrch arian a gollwyd neu a anghofiwyd cefnogi’r cynaladwyedd yn eich Clwb All-Ysgol!Ni chaniateir iddynt ddefnyddio’r talebau fel taliadau yn ogystal â Gofal Plant Di-dreth, fodd bynnag os oes gan deuluoedd arian segur ar gael yn y cynlluniau, efallai eu bod wedi anghofio neu nad ydynt yn ymwybodol y gellir eu defnyddio ar gyfer eu sesiynau Gofal Plant. Efalle gall hyn hefyd gynnwys sesiynau ychwanegol yn Glybiau Gwyliau.
Gwelwch y dolenni isod i weld rhai enghreifftiau o gwmnïau sy’n trefnu talebau, neu gallwch gysylltu â’n Swyddogion Datblygu os hoffech gael rhywfaint o gymorth neu gael rhagor o wybodaeth.
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am gynlluniau talebau info@clybiauplantcymru.org
Help paying for childcare: Childcare vouchers and other employer schemes – GOV.UK
Edenred Childcare Vouchers Login & Eligibility | Edenred
Computershare Voucher Services