
16.05.2025 |
Cynnig Gofal Plant Cymru -Ffioedd Atodol (top up), Taliadau Ychwanegol a Thaliadau Gorfodol
Yr haf hwn, bydd Cynnig Gofal Plant Cymru yn cynnal eu harolwg blynyddol o ddarparwyr gofal plant a rhieni yng Nghymru.
Eleni, bydd yr arolwg yn cael ei ryddhau ychydig yn gynt nag arfer a bydd yn cynnwys adran sy’n canolbwyntio ar ffioedd atodol, taliadau ychwanegol a thaliadau gorfodol.
Ffioedd atodol: Pan fydd rhiant yn cael gwybod gan eu lleoliad nad ydynt yn derbyn digon o arian i ddarparu’r Cynnig Gofal Plant, a gofynnir i’r rhiant gyfrannu at y tâl fesul awr trwy ffi atodol.
Taliadau ychwanegol Pan fydd rhiant yn destun taliadau ychwanegol nad ydynt wedi’u nodi fel rhai a ganiateir yn y canllawiau polisi.
Taliadau gorfodol: Pan fydd rhiant sy’n dymuno manteisio ar eu hawl gofal plant yn cael ei orfodi i dalu gofal plant heb ei ariannu ar ddechrau, canol neu ddiwedd y sesiwn. Rydym wedi clywed nad yw rhieni yn cael unrhyw ddewis yn y model codi tâl hwn.
Bu cynnydd mewn gohebiaeth, sy’n awgrymu bod yr arferion hyn yn dod yn fwy cyffredin sy’n golygu bod y canllawiau presennol yn cael eu cymhwyso’n anghyson ar draws Cymru. Dylai rhieni sy’n gwneud cais am y Cynnig ddisgwyl yn rhesymol cael mynediad at eu horiau craidd a ariennir heb ffioedd atodol neu daliadau ychwanegol/ gorfodol. Rydym yn disgwyl i rieni a’r lleoliadau gael deialog agored a bod y ddwy ochr yn deall pa ffioedd a allai fod yn berthnasol, gan ganiatáu i rieni wneud dewisiadau gwybodus am ofal plant.
Bydd yr arolwg yn gofyn sawl cwestiwn i leoliadau a rhieni er mwyn gweld ble yng Nghymru y mae’r arferion hyn yn digwydd ac a oes unrhyw dueddiadau o ran ardaloedd daearyddol, math o leoliad neu faint y lleoliad. Bydd yr wybodaeth a gesglir drwy’r gwaith hwn yn ein helpu i ddeall yn well yr effaith ar rieni a darparwyr ac yn llywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol.
Er y bydd yr arolwg yn ceisio barn lleoliadau a rhieni, byddwn hefyd yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol fel ein partneriaid gweithredu er mwyn llunio darlun Cymru gyfan o’r sefyllfa.