Cyfle i fod yn Fentor yn y Gymuned – Gofal Plant a Chwarae

Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am hyd at 10 mentor cymunedol i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r camau gweithredu gofal plant a gwaith chwarae yng Nghynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i bobl o bob cwr o Gymru sydd wedi byw profiad o hiliaeth a phrofiad o ofal plant a chwarae i lunio dyfodol gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru.

Rydym yn awyddus i annog ceisiadau gan ystod eang ac amrywiol, ac felly rydym yn hyrwyddo’r cyfle hwn mor bell ac eang ag y gallwn.

Mae rhagor o wybodaeth am y cyfle ar gael yma.

Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 4pm ar 23 Mehefin 2025.