Erthygl y mis CCUHP – Erthygl 31: Mae gan bob plentyn ‘yr hawl i orffwys a chwarae’

Mae Mehefin a Gorffennaf yn amser gwych i ddathlu ac eiriol dros hawl pob plentyn i orffwys a chwarae.  Diwrnod Chwarae Rhyngwladol ar 11 Mehefin mae’n bryd dechrau cynllunio sut y gallwch ddathlu o fewn eich Clwb Gofal Plant All-Ysgol.

  • Cymryd drosodd i’r maes chwarae, beth bynnag fo’r tywydd – galluogi Plant i gael mynediad i Leoedd Chwarae mawr a bach. Dathlwch trwy dynnu lluniau a dangoswch i rieni sut mae plant yn cael mynediad i Chwarae a ddewisir yn rhydd o fewn eich Clwb.
  • Datblygu Mannau Chwarae o fewn y gymuned – a oes cyfle i ddatblygu neu ddefnyddio rhywfaint o le yn eich Cymuned leol? Mae caeau chwarae mawr neu ardaloedd coetir yn rhoi cyfleoedd gwych i ddarparu amgylcheddau Chwarae newydd.
  • Mynd ati i gyrraedd Clybiau eraill yn eich ardal i rhannu Mannau Chwarae yn eich cymuned leol.  Mynd ati i gynnal diwrnod mabolgampau bach neu gemau olympaidd ar y cyd âa Chlybiau eraill yn eich ardal.

Edrychwn ymlalen at lond gwlad o Hwyl yr Haf; a chofiwch y gall gorffwys ac ymlacio yn ystod y Gwyliau wneud lles i Blant yn ogystal â Staff a Theuluoedd. Cynhaliwch diwrnod cymunedol ar y traeth, neu ddiwrnod o hwyl mewn  parc lleol. Anogwch eich cymuned i gymryd rhan a eiriolwch dros Blant yn cael mynediad i Fannau Chwarae lleol.

https://www.Adnoddau Comisiynydd Plant Cymru/ 

Darllen mwy