
30.05.2025 |
Codi Arian ar gyfer Tŷ Hafan
Mae staff Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn enwebu elusen sy’n agos at ein calonnau i’w chefnogi drwy godi arian a chodi ymwybyddiaeth bob blwyddyn. Y llynedd, gwnaethom gefnogi Parkinson’s UK drwy gynnal rafflau, siopau cyfnewid, addewidion noddedig a chodi arian drwy deithiau cerdded, gan godi dros £1,500.00.Ein helusen enwebedig eleni yw Tŷ Hafan, ac rydym am ddechrau codi arian ym mis Mehefin gyda Te i Tŷ Hafan.
Er mwyn dechrau’r broses o godi arian, mae ein Prif Weithredwr, Jane O’Toole, yn cerdded y Camino (dros 100km) o Borto i Santigo! Os hoffech chi ein noddi a dangos eich cefnogaeth, ewch draw i’n tudalen ‘JustGiving’: https://bit.ly/Justgiving25