Cyhoeddi ariannu ychwanegol i ofal plant yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi ei Chyllideb Derfynol, sy’n cynnwys £30 miliwn ychwanegol ar ben yr £20 miliwn sydd wedi’i gynnwys yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer gofal plant.

Bydd hyn yn rhoi cynnydd pellach yn y gyfradd fesul awr i £6.40 i gefnogi darparwyr gofal plant gyda phwysau cost.

Bydd hefyd yn sicrhau cyllid ar gyfer rhaglen Dechrau’n Deg i ddarparu gofal plant i blant dwy oed ledled Cymru.  Mae hyn yn ychwanegol at y cyhoeddiad diweddar ynghylch symud i adolygiadau blynyddol o gyfraddau fesul awr o 2025-26 a’r penderfyniad i wneud rhyddhad ardrethi o 100% ar gyfer pob man gofal plant yn barhaol.

Wrth gyhoeddi’r Gyllideb Derfynol hon, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos â Jane Dodds AS, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, i gytuno ar fwy na £100m o fuddsoddiad ychwanegol, mewn meysydd o flaenoriaethau a rennir.

Darllenwch fwy yma Cyllideb Derfynol 2025-2026: nodyn esboniadol