23.01.2026 |
Camwch I Mewn I Waith Chwarae
Er mwyn cefnogi a chryfhau recriwtio yn y sector Gwaith Chwarae, rydym wedi datblygu rhaglen camu i mewn i Waith Chwarae, sy’n cynnig llwybr i mewn i’r sector Gofal Plant All-Ysgol trwy hyrwyddo ein cynnig o:
Lefel 1 Cyflwyniad i Waith Chwarae: Mae’r cwrs hwn yn cynnwys uned lefel 1 mewn Gwaith Chwarae ac yn cynnig mewnolwg clir o’r rolau ac egwyddorion arfer Gwaith Chwarae i gyfranogwr. Mae’n arbennig o addas i unigolyn sydd â diddordeb mewn chwarae neu Waith Chwarae ac sy’n dymuno cael dealltwriaeth gychwynnol o’r sector.
Lefel 1 Llwybr i Waith Chwarae: Mae’r cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno dros 10 sesiwn, ac yn cynnwys profiad gwaith. Mae’n adeiladu ar addysg sy’n gysylltiedig â gwaith i greu cymhwyster sy’n cyfateb i 2 TGAU ar radd D-G, gan ddefnyddio damcaniaeth Gwaith Chwarae ac arfer i gynnig hyfforddiant deinamig, gan hefyd paratoi cyfranwyr ar gyfer y llwybr i weithio yn y sector Gofal Plant All-Ysgol.
Nod cymhwyster Lefel 1 Llwybr i Waith Chwarae yw paratoi pobl ifanc ar gyfer cyflogaeth yn y sector Gwaith Chwarae, ac i gefnogi eu datblygiad tuag at Brentisiaeth Lefel 2 (Diploma Lefel 2 mewn Gwaith Chwarae) neu’r Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae.
Yn agored i ddygwyr oed 14 ac uwch, mae’r Lefel 1 Llwybr i Waith Chwarae yn cynnig llwybr datblygu i’r rhai nad ydynt eto’n barod i ymgymryd â chymwysterau Lefel 2, yn ogystal â phobl ifanc dan 16 oed nad ydynt yn gymwys ar gyfer y Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae.
Os oes gennych ddiddordeb mewn buddsoddi yn y cyrsiau llwybr hyn, neu am ragor o wybodaeth cysylltwch â Dawn Bunn trwy e-bost Dawnb@clybiauplantcymru.org
