14.11.2025 |
Canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’u diweddaru ar gyfer y Sector Gofal Plant
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi diweddaru sawl darn o ganllawiau yn ddiweddar. Cymerwch eiliad i adolygu’r wybodaeth ddiweddaraf a gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfredol. Gallwch ddod o hyd i’r canllawiau diweddaraf ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cyngor ac arweiniad ar gyfer lleoliadau gofal plant, cyn ysgol ac addysgol – Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae’r canllawiau diweddaraf yn cynnwys:
- Y cyfnod gwahardd ar gyfer heintiau cyffredin gan gynnwys canllawiau A-Z o heintiau cyffredin (v8), dyma’r canllawiau Gwahardd i gynorthwyo lleoliadau addysgol ynghylch mynychu’r ysgol
- Diogelu Iechyd mewn lleoliadau Plant a Phobl Ifanc gan gynnwys Addysg (v3) 2025, dyma’r canllawiau Diogelu Iechyd ac Atal a Rheoli Heintiau
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu adnodd i helpu i gefnogi’r sector gofal plant i atal lledaeniad firysau gaeaf.
Mae’r adnodd yn cynnwys:
- Awgrymiadau ymarferol ar sut i leihau lledaeniad firysau gaeaf cyffredin.
- Dolenni defnyddiol i ddeunyddiau ychwanegol y gellir eu rhannu a’u defnyddio yn eich lleoliad.
Gweler yr adnodd sydd ynghlwm am fanylion llawn ac mae croeso i chi ei rannu gyda’ch clybiau. Gyda’n gilydd, gallwn ni helpu i gadw plant, staff a theuluoedd yn iach yn ystod y gaeaf hwn!