20.03.2026 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
BBC Plant mewn Angen
Mae’r BBC Plant mewn Angen yn cynnig cyllid Prosiect a Chraidd, ac nid oes dyddiadau cau, felly gallwch wneud cais unrhyw bryd. Mae’r grantiau sydd ar gael yn amrywio o £1,000 i £40,000 y flwyddyn a gellir eu dyfarnu am hyd at dair blynedd.