17.04.2026 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Cronfa i Gymru 2026/27
Mae Cronfa i Gymru yn gronfa waddol cymunedol cenedlaethol, a reolir ac a hyrwyddir gan Sefydliad Cymunedol Cymru.
Mae’n rhaglen hyrwyddo dyngarwch a rhoi grantiau sy’n codi arian gan bobl a sefydliadau ledled Cymru, y DU, a thramor sydd eisiau ‘rhoi yn ôl’ i gefnogi a chryfhau cymunedau lleol: mae Cronfa Cymru yn cysylltu pobl sy’n gofalu ag achosion sy’n bwysig.
Ar hyn o bryd mae’r gronfa yn cael ei chefnogi trwy bartneriaeth â Loteri Cod Post y Bobl, ochr yn ochr â chyfraniad gan Tiny Rebel a Goodwash.
Mae Cronfa Cymru yn agored i elusennau a mudiadau gwirfoddol bach, lleol, a arweinir gan y gymuned (e.e. cymdeithasau, mentrau cymdeithasol, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a chlybiau), gydag incwm blynyddol o lai na £100,000.
Canlyniadau’r Gronfa:
- Gwella cyfleoedd pobl mewn bywyd
- Adeiladu cymunedau cryfach
- Gwella amgylcheddau gwledig a threfol
- Annog pobl a chymunedau iachach a mwy egnïol
- Cadw treftadaeth a diwylliant.
Dyddiad cau ceisiadau: 9 Tachwedd 2026 12.00 hanner dydd