Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Gall elusennau, sefydliadau gwirfoddol ac ysgolion yn y DU wneud cais am grantiau i gefnogi plant ac oedolion ag anawsterau dysgu difrifol, gan gynnwys awtistiaeth.

Mae’r cyllid ar gael drwy raglen Grantiau Cyffredinol Baily Thomas, a gellir ei ddefnyddio i brynu offer, cefnogi gwaith cyfalaf, a thalu costau prosiectau a chostau craidd.

Mae grantiau blaenorol wedi’u defnyddio i gefnogi:

  • gwaith adeiladu cyfalaf/adnewyddu/ailwampio ar gyfer gofal preswyl, gofal nyrsio a gofal seibiant, ac ysgolion
  • cynlluniau cyflogaeth, gan gynnwys gwaith coed, crefftau, argraffu a garddwriaeth
  • cynlluniau chwarae a chynlluniau therapi chwarae
  • canolfannau gweithgareddau dydd a chymdeithasol, gan gynnwys costau adeiladu a chostau rhedeg
  • cymorth i deuluoedd, gan gynnwys cynlluniau seibiant
  • cynlluniau byw’n annibynnol
  • cynlluniau cymorth yn y gymuned
  • ystafelloedd Snoezelen

Gall Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon, Cymdeithasau Budd Cymunedol ac elusennau eithriedig eraill wneud cais hefyd. Nid yw’r Gronfa ar hyn o bryd yn derbyn ceisiadau gan Gwmnïau Buddiannau Cymunedol.

Mae dwy raglen ariannu. Y brif raglen ar gyfer grantiau o £5,000 neu fwy, a rhaglen grantiau bach ar gyfer ceisiadau o dan £5,000.

Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau i’r brif raglen yw 31 Awst 2026. Gellir gwneud ceisiadau i’r rhaglen grantiau bach unrhyw bryd.

Enw’r sefydliad:
Rhaglen Grantiau Cyffredinol Baily Thomas

Dyddiad cau:
31/08/2026

General guidelines | Baily Thomas Charitable Fund

 

Funding for Projects that Address Severe Learning Disabilities (UK) – News – Grants Online