29.06.2026 |
Llongyfarchiadau i bawb a gafodd eu henwebu ac sydd ar y rhestr fer
Rydym yn falch iawn o longyfarch yr holl glybiau a gweithwyr chwarae sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2026.
Clybiau ar y rhestr fer:
- Annexe Alive
- Bridging the Gap Youth
- Caban y Coed
- Camp Fantastic
- Childs Play @ Ltd
- Clwb Carco
- Clwb Cymer Ofal
- Clwb Gogerddan
- Clwb Plant Llandegfan Kids Club
- Clwb Twm
- Clwb y Ddraig
- Clwb y Morfa C.B.C
- Cylch Meithrin Y Gyrnos ASC
- Dylan’s Den
- Faith in Families, Swansea
- Gofal Plant Flourish Cymru Childcare Tonyrefail
- Llandrillo yn Rhos Daycare
- St Aubin, The lodge
- St Giles Wraparound Care
- Summerhouse Out of School Club
- Trinity Childcare and Family Centre
- Tweenie Tots Holiday Club
- Y Bont Out of School
- Ysgol y Deri
Mae cael eich cynnwys ar y rhestr fer yn gyflawniad gwych, ac yn adlewyrchiad o’ch ymroddiad, eich angerdd a’r gwahaniaeth cadarnhaol rydych yn ei wneud i blant, teuluoedd a chymunedau drwy ofal plant all-ysgol.
Hoffem hefyd longyfarch pob clwb a phob gweithiwr chwarae a gafodd eu henwebu eleni. Cawsom dros 300 o enwebiadau, ac roedd pob un ohonynt yn eithriadol. Roedd yr enwebiadau’n amlygu straeon ysbrydoledig o ofal, creadigrwydd, ymrwymiad a chefnogaeth, ac yn dangos yn glir pa mor gwych yw’r sector hwn.
Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd yr amser i gyflwyno enwebiad ac i rannu’r gwaith gwych sy’n digwydd mewn clybiau ledled Cymru. Mae’n fraint cael dathlu’r bobl a’r lleoliadau sy’n gweithio mor galed i greu profiadau diogel, cynhwysol a llawn hwyl i blant bob dydd.
Llongyfarchiadau unwaith eto i bawb sydd ar y rhestr fer ac i bawb a gafodd eu henwebu. Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu eich llwyddiannau yng Nghynhadledd a Seremoni Wobr Gofal Plant All-Ysgol 2026.