Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Cynllun Grant Cyfalaf Bach Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar Abertawe 2026/2027  

Ceisiadau gan leoliadau presennol sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal plant a darpariaeth blynyddoedd cynnar o safon yn barhaus ledled Dinas a Sir Abertawe.  

Y swm mwyaf y gall unrhyw ddarpariaeth wneud cais amdano yn ystod blwyddyn ariannol 2026/2027 yw £40,000. Ar gyfer gwarchodwyr plant cofrestredig, y swm mwyaf yw £10,000. Bydd swm y grant yn dibynnu ar amgylchiadau unigol a’r cyfiawnhad dros yr angen amdano. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dyfernir symiau sy’n uwch na’r terfyn hwn. 

Am ragor o wybodaeth ewch at: https://www.abertawe.gov.uk/cynllunGrantiauCyfalafBach?lang=cy