Ymunwch â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr

Am fod yn rhan o’r broses o yrru yn ei flaen y sector Gofal Plant All-Ysgol yng Nghymru? – Ymunwch â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr heddiw!

Am fod yn rhan o’r broses o yrru yn ei flaen y sector Gofal Plant All-Ysgol yng Nghymru? – Ymunwch â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr heddiw!

Os ydych chi’n rhannu ein gweledigaeth o Gymru lle mae plant yn chwarae a chymunedau’n ffynnu, ac os ydych â phrofiad o Ofal Plant All-Ysgol, byddai’n dda iawn gennym glywed oddi wrthych.

Rydym yn derbyn enwebiadau ar gyfer aelodau newydd o’n Bwrdd ar hyn o’n bryd. Bydd eich ymwneud chi’n cryfhau ac yn ategu at sgiliau’r Bwrdd presennol, gan ein helpu i gyflawni ein Gweledigaeth a’n Cenhadaeth, a gwneud ein proffil yn amlycach i gynulleidfa ehangach.

Er mwyn dysgu mwy am rôl aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, ac i gyflwyno enwebiad, gofynnir ichi ddarllen ein disgrifiad swydd Ymddiriedolwr.

Os hoffech drafod y rôl, gofynnir ichi gysylltu â ni.

I ddysgu mwy am Weledigaeth, Cenhadaeth a Nodau Strategol Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, ynghyd â’n gwerthoedd a’n hymddygiad, ewch i’r dudalen ‘amdanon ni’ ar ein gwefan.

Mae ein cyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr chwarterol ar gael ar-lein, drwy Zoom neu Teams. Yn ogystal, mae gennym Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Tachwedd, a fydd yn cymryd lle yn Metropole Hotel and Spa yn Llandrindod eleni.

Ffurflen gais