Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Cynllun Grant Cyfalaf Bach Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar 2026-27 

Mae gwarchodwyr plant a darparwyr gofal plant ym Rhondda Cynon Taf yn cael eu gwahodd i wneud cais am gyllid i gefnogi gwelliannau i’w lleoliadau. Gellir defnyddio’r grantiau ar gyfer gwaith cyfalaf hanfodol neu offer sy’n helpu i ehangu nifer y lleoedd gofal plant, gwella amgylcheddau dysgu, a chryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg. 

I fod yn gymwys, rhaid i leoliadau fod wedi’u lleoli yn Rhondda Cynon Taf, bod wedi’u cofrestru (neu’n gweithio tuag at gofrestru) gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), ymrwymo i ddarparu rhaglenni gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru am o leiaf bum mlynedd, a bod wedi’u cofrestru gyda’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) a DEWIS.  

Peidiwch â cholli’r cyfle – bydd y ffenestr ceisiadau’n cau 16 Hydref 2026. 

Childcare & Early Years Small Capital Grants Scheme 2026-2027 | Rhondda Cynon Taf County Borough Council