Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Trwy ein prosiect, CYMell, ein nod yw cefnogi leoliadau Gofal Plant Allysgol cyfrwng-Cymraeg a dwyieithog anghofrestredig, fel chithau, i ddod yn gofrestredig ag AGC fel y gallwch gefnogi’r iaith Gymraeg. Bydd modd i chi hefyd gynnig gofal plant mwy fforddiadwy er mwyn galluogi rhieni a gofalwyr i ddychwelyd i’w gwaith neu hyfforddiant, drwy alluogi lleoliadau i gyflenwi’r Cynnig Gofal Plant a Gofal Plant Di-dreth.   

Grant Cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) 

Mae grant £1000 ar gael gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs drwy gyllid a gafwyd gan Lywodraeth Cymru o Ebrill 2025 tan Fawrth 2026 i gefnogi lleoliadau Cymraeg / dwyieithog gyda’r costau sy’n gysylltiedig â chyflwyno cais am gofrestru ag AGC ac ennill cofrestriad; bydd hefyd yn cefnogi ehangu darpariaeth bresennol cylchoedd  i gynnig gofal plant allysgol i blant hyd at 12 mlwydd oed.   
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am y Grant Cofrestru ag AGC neu os hoffech gael gwybod sut y gall CYMell gefnogi eich lleoliad, cysylltwch ag aelod perthnasol o’r tîm, os gwelwch yn dda:  

Gogledd Cymru: elliwp@clybiauplantcymru.org  

De Cymru: meganm@clybiauplantcymru.org 

Gorllewin Cymru: meganp@clybiauplantcymru.org 

Byddem yn hapus i siarad â chi am y cymorth sydd ar gael a’ch helpu i ddeall sut y gall CYMell gefnogi eich lleoliad ar ei daith tuag at gofrestru gydag AGC.