Mae CYMell yn dathlu pedair blynedd o effaith

Mae CYMell wedi cyrraedd carreg filltir gyffrous, gan ddathlu pedair blynedd o gefnogi twf Gofal Plant All-Ysgol cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Mae adroddiad effaith newydd wedi tynnu sylw at y gwahaniaeth y mae cyllid ymrwymedig wedi’i wneud wrth helpu lleoliadau i agor, ehangu a chofrestru, gan hefyd gryfhau cyfleoedd i blant a theuluoedd.  

Ers dechrau’r prosiect, mae 91 o glybiau cyfrwng Cymraeg wedi agor eu drysau, mae 57 o leoliadau wedi cofrestru neu ehangu eu gwasanaethau, ac mae 70 o grantiau AGC wedi’u dyfarnu. Mae’r prosiect hefyd wedi cefnogi 265 o gymwysterau gwaith chwarae, wedi talu 240 o fwrsariaethau dysgu ac wedi cofrestru 115 o glybiau yn yr Addewid Cymraeg.  

I ddarllen yr adroddiad llawn, cliciwch ar y ddolen isod os gwelwch yn dda CYMell Datganiad Effaith y Prosiect hyd Yma: Medi 2022–2026