Diwrnod Rhyngwladol Chwarae (IDP) – Cymryd Drosodd y Maes Chwarae: Ffenestr Pleidleisio Nawr ar Agor

Cawsom nifer gwych o enwebiadau ar gyfer y digwyddiad, Cymryd Drosodd y Maes Chwarae 2026, eleni. Mae tîm Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi bod yn brysur yn llunio’r rhestr fer, ac mae’r ysgolion canlynol wedi wneud hi ar y rhestr fer – nawr mae drosodd i chi bleidleisio dros eich hoff ysgol. Bydd un enillydd o bob rhanbarth (De-ddwyrain Cymru, Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru).

Yn Ne-ddwyrain Cymru, yr ysgolion ar y rhestr fer yw:

  • Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn, Rhondda Cynon Taf
  • Ysgol Gynradd Llanfair, Bro Morgannwg
  • Ysgol Gynradd Llanilltuid Faerdref, Rhondda Cynon Taf

Yng Ngorllewin Cymru, yr ysgolion ar y rhestr fer yw:

  • Ysgol Yr Hendy, Sir Gaerfyrddin
  • Ysgol Gynradd Casllwchwr, Abertawe
  • Ysgol y Dderi, Ceredigion

Yng Ngogledd Cymru, yr ysgolion ar y rhestr fer yw:

  • Ysgol Esgob Morgan, Sir Ddinbych
  • Ysgol Rofft, Wrecsam
  • Ysgol Gynradd Gymunedol Parc Borras, Wrecsam

Bydd pob ysgol  fel rhan o ddigwyddiad Cymryd Drosodd y Maes Chwarae  yn croesawu tîm o weithwyr chwarae a fydd yn dod ag amrywiaeth o adnoddau a rhannau rhydd ar gyfer prynhawn cyfan o chwarae am ddim ar Ddiwrnod Rhyngwladol Chwarae.Mae Diwrnod Rhyngwladol Chwarae (IDP) yn gyfle i ddathlu pŵer chwarae ac yn cydnabod chwarae fel hawl sylfaenol sy’n cefnogi datblygiad plant, iechyd meddwl a chorfforol, cynhwysiant cymdeithasol, ymdeimlad o berthyn, gwytnwch, creadigrwydd a llesiant.

Bydd y ffenestr bleidleisio ar agor tan 15 Mai 2026  felly ewch ati i rannu!