02.10.2026 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Mae mis Hydref yn Fis Hanes Pobl Dduon yn y DU, sy’n ei wneud yn gyfle gwych i feddwl am sut mae hanes, diwylliant a phrofiadau pobl Dduon yn cael eu cynrychioli yn eich clwb.
Yn hytrach na chyfyngu hanes pobl Dduon i un mis yn unig, beth am ddefnyddio mis Hydref fel cyfle i edrych ar adnoddau eich clwb a gofyn:
“A all pob plentyn weld ei hun yn cael ei gynrychioli yma?”
Edrychwch ar eich llyfrau, posteri, doliau, ffigurau, gemau, gwaith celf ac adnoddau chwarae rôl.
A oes cyfleoedd i blant weld pobl Dduon yn cael eu cynrychioli mewn amrywiaeth eang o rolau a phrofiadau, ac nid dim ond wrth drafod hiliaeth neu ddigwyddiadau hanesyddol?
Gallech hefyd wahodd plant a theuluoedd i argymell llyfrau, cerddoriaeth, straeon, gemau neu fwydydd sy’n bwysig iddynt.
Cofiwch: mae dathlu amrywiaeth yn gweithio orau pan fydd yn rhan o ddarpariaeth bob dydd yn hytrach na rhywbeth sy’n digwydd ar ddiwrnodau ymwybyddiaeth penodol yn unig.
Mae mis Hydref hefyd yn cynnwys Mis Gweithredu Dangoswch Gerdyn Coch i Hiliaeth (Show Racism the Red Card), sy’n gyfle arall i gael sgyrsiau addas i oedran am degwch, parch a herio hiliaeth.