Beth mae Gofal Plant a Ariennir gan Lywodraeth Cymru yn ei olygu i Glybiau Gwyliau yng Nghymru

Mae Gofal Plant a Ariennir gan Lywodraeth Cymru yn darparu cymorth i deuluoedd ledled Cymru i gael mynediad at Ofal Plant Cofrestredig.

Ar hyn o bryd, mae ar gael i deuluoedd cymwys ac mae’n cynnwys mynediad at ofal plant yn ystod y gwyliau am hyd at 9 wythnos y flwyddyn. Mae hyn yn galluogi teuluoedd i: 

  • Ymrwymo i waith rheolaidd / cyflogaeth 
  • Cynyddu eu horiau gwaith 
  • Dechrau hyfforddiant 

I Glybiau Gofal Plant All-Ysgol sydd wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), gall hyn olygu: 

  • Lefelau presenoldeb uwch 
  • Ffynonellau incwm mwy sefydlog 
  • Mwy o gyfleoedd i ehangu gwasanaethau 
  • Mwy o welededd fel rhan hanfodol o seilwaith gofal plant lleol 

I gael gwybod sut y gall Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs gefnogi Clybiau Gofal Plant All-Ysgol i: 

  • Asesu ac adolygu cynlluniau busnes i nodi addasiadau a chyfleoedd posibl i wella darpariaeth gofal plant 
  • Cefnogi darparwyr i ddatblygu modelau busnes cadarn, gan gynnwys rhagolygon ariannol a chynllunio strategol 
  • Cynorthwyo gyda gweithgareddau marchnata ac ymgysylltu i godi proffil gwasanaethau gofal plant yn lleol ac ymhellach 
  • Darparu cymorth busnes wedi’i deilwra i wella cynaliadwyedd, gwydnwch a chapasiti ar gyfer twf yn y dyfodol 

Cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Busnes Gofal Plant neu Swyddog Hyfforddiant rhanbarthol, a all gwblhau Asesiad Gofal Plant All-Ysgol (OSCA) gyda chi a darparu’r cymorth sydd ei angen arnoch. 

 

Info@clybiauplantcymru.org