31.10.2025 |
Erthygl y mis CCUHP – Erthygl 36 a 19 Hawl Plentyn i gael ei gadw’n ddiogel, i gael gofal amdano a pheidio â chael ei niweidio na’i werthu
Sut y gall Clybiau Gofal Plant All-Ysgol cefnogi Hawl y Plentyn i gael ei gadw’n ddiogel?
- Grymuso Plant yn y Clwb i ddeall yr hawliau hyn. Codi ymwybyddiaeth o fwlio, amddiffyn eu hunain ar-lein a thrwy sefydliadau fel yr NSPCC. Diogelu yw cyfrifoldeb pawb ac mae pob Plentyn â Hawl i fod yn ddiogel ym mhob agwedd ar eu bywyd.
- Gofalwch bod yr holl arferion Diogelu yn cael eu cynnal yn eich Clwb drwy Archwiliad Iechyd Diogelu Clybiau Plant Cymru. Cysylltwch â
info@clybiauplantcymru.org - Cefnogi a chyfeirio Plant a Phobl Ifanc, Rhieni a Gofalwyr, a Gweithwyr Proffesiynol at Wefan Comisiynydd Plant Cymru. Gall eu tîm cynghori gefnogi pob plentyn a pherson ifanc sy’n byw yng Nghymru hyd at 18 oed neu sydd â phrofiad o ofal, yna gallant gefnogi hyd at 21 oed, neu hyd at 25 os ydynt mewn addysg llawn amser. Hafan – Comisiynydd Plant Cymru