Erthygl y Mis – Erthygl 31: Mae gan blant yr hawl i ymlacio a chwarae

Rydym yn annog pob clwb i ystyried ac adlewyrchu ar hawl pob plentyn, ac i sicrhau y mis hwn eu bod yn gallu arfer yr hawl a nodir yn Erthygl 31.

Sut rydych chi’n cefnogi hawl y plentyn i chwarae ac i orffwys yn eich Clwb Gofal Plant All-Ysgol?

Meddyliwch am eich amgylchedd:

Rydym wedi sylwi, yn enwedig ar ddiwrnodau poeth a heulog iawn, bod plant eisiau gallu gorffwys os ydynt yn teimlo’n rhy boeth; gall hyn hefyd achosi blinder eithafol i blant ac oedolion fel ei gilydd.

Meddyliwch am eich man yn yr awyr agored:

A oes lle ar gyfer myfyrio tawel, archwilio natur ac ymlacio pan fydd unigolion eisiau neu angen gwneud hynny ar ddiwedd y dydd?

A oes gennych unrhyw awgrymiadau y gellir eu rhannu gyda ni a chlybiau eraill? Rydym yn hapus i rannu’r hyn rydych wedi’i ddysgu neu eich profiadau yn ein bwletinau neu yn ein cylchlythyr Y Bont; cysylltwch â ni trwy info@clybiauplantcymru.org os hoffech rannu gwybodaeth gyda ni.

Darllen mwy: