19.07.2024 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Grant i newid yr iaith weithredu i’r Gymraeg
A ydych yn Glwb Gofal Plant Allysgol sydd wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru fel un sy’n darparu gofal yn ddwyieithog? A ydych am newid eich iaith cyflenwi i’r Gymraeg?
Mae’n bleser gennym gyhoeddi cynllun grant i gefnogi lleoliadau i newid eu hiaith weithredol i’r Gymraeg.
Gall y grant dalu costau megis gweinyddu newid manylion cofrestru gydag AGC, cyfieithu polisïau, arwyddion a marchnata ynghyd â chefnogi cynaliadwyedd wrth i chi farchnata eich darpariaeth cyfrwng-Cymraeg.
Os oes gennych ddiddordeb mewn symud o fod yn ddarpariaeth ddwyieithog i fod yn un Gymraeg, cysylltwch â’ch swyddfa ranbarthol: