17.01.2025 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Cist Gymunedol Sir y Fflint 24/25
Mae Grantiau Cist Gymunedol Sir y Fflint ar gael i gefnogi gweithgaredd cymunedol. Mae ceisiadau yn cael eu derbyn nawr gan sefydliadau sydd o fudd i bobl Sir y Fflint, gyda grantiau ar gael hyd at £1000. Mae’r grant yn cael ei gynnig i gefnogi mentrau untro, megis:
- Prosiectau cyfalaf mân, er enghraifft, atgyweirio adeiladau a diweddaru gosodiadau a ffitiadau mewnol.
- Digwyddiadau cymunedol
- Offer, ond nid nwyddau traul*
- Astudiaeth ddichonoldeb
- Cyhoeddusrwydd a Marchnata
- Digwyddiadau Hyfforddi ac ymwybyddiaeth/cyrsiau
- Ymateb i argyfyngau cenedlaethol, rhanbarthol neu leol
- Adferiad o argyfwng cenedlaethol, rhanbarthol neu leol
Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau gan sefydliadau bach lleol yn Sir y Fflint.
Bydd grantiau ond yn talu am 75% o gyfanswm y gost, felly bydd cyllid cyfatebol yn hanfodol.
Sylwch, dim ond unwaith mewn cyfnod o 2 flynedd y gellir gwobrwyo uchafswm o £1,000. Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus aros 12 mis cyn ailymgeisio.
Am ragor o wybodaeth, gyngor neu gefnogaeth, cysylltwch â: Heather Hicks ar Ffôn: 01352 744000, neu e-bostiwch: heather.hicks@flvc.org.uk
Mae’r cylch nesaf yn cau 26 Ionawr 2025
Cronfa Gymorth Penarlâg a’r Cylch
Nod y grant hwn yw helpu unigolion ag adnoddau cyfyngedig neu’r rhai yr ystyrir eu bod mewn argyfwng. Mae’r gronfa hefyd yn cynorthwyo grwpiau a sefydliadau sy’n cefnogi pobl fregus.
Mae cyllid o Cronfa Gymorth Penarlâg a’r Cylch wedi cael ei defnyddio er mwyn:
- Prynu offer a gweithgareddau ar gyfer grwpiau cymunedol/elusennau ym Mhenarlâg sy’n gweithio gyda phobl fregus mewn angen.
- Prynu eitemau cartref hollbwysig e.e. nwyddau gwyn, dillad gwely, carpedi ac ati.
- Prynu Eitemau sy’n hanfodoli leddfu dioddefaint tlodi bwyd a thanwydd (e.e. parseli bwyd, blancedi, poteli dŵr poeth, thermals, trwsio’r boeler ).
- Gwneud atgyweiriadau hanfodol a/neu ailaddurno.
- Darparu clybiau cinio, cydweithfeydd bwyd, gweithgareddau sy’n hybu cydlyniant cymunedol, lleihau unigedd a lleddfu tlodi.
Grantiau ar gael
Gall unigolion a sefydliadau wneud cais am grantiau hyd at £1,000 y flwyddyn. Gall sefydliadau sy’n gwneud cais am brosiect cymunedol wneud cais am gyllid am sawl blwyddyn.
Pwy all wneud cais?
- Grwpiau a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sy’n byw ym Mhenarlâg
- Unigolion sy’n byw ym Mhenarlâg.
The Ashley Family Foundation
Mae’r Ashley Family Foundation yn elusen gofrestredig yn y DU, a sefydlwyd gan Syr Bernard Ashley a’i wraig Laura Ashley yn dilyn llwyddiant brand Laura Ashley. Mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn falch i fod yn gweithio gyda Ashley Family Foundation i ddosbarthu ei gyllid yng Nghymru.
Ethos Ashley Family Foundation, yn bennaf yw cryfhau cymunedau gwledig, o ran yr agweddau cymdeithasol ac amgylcheddol ynghyd â rhoi yn ôl i’r cymunedau a helpodd y teulu i ddatblygu’r cwmni i i llwyddo’n rhyngwladol.
Mae Ashley Family Foundation yn arbennig o awyddus i ariannu gwaith yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru, lle cafodd cwmni ‘Laura Ashley’ effaith sylweddol ar yr economi leol a lles cymdeithasol eu bobl gyda mwy o gyfleoedd cyflogaeth ac ysbrydoliaeth y tîm a oedd yn gwerthfawr i’r gweithlu.
Ochr yn ochr â hyn, mae Ashley Family Foundation yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan brosiectau celfyddydol a chymunedol ar raddfa fach yng Nghymru ac yn croesawu ceisiadau gan amgueddfeydd/sefydliadau cymunedol.
Grantiau ar Gael
Gall sefydliadau wneud cais am grantiau rhwng £500 a £10,000
Pwy all wneud cais?
Elusennau, sefydliadau anghorfforedig a grwpiau cymunedol gyda chyfansoddiad neu gylch gorchwyl a diben elusennol.
Dyfernir cyllid i brosiectau ar sail budd a gwerth a chaiff pob prosiect ei ystyried yn ôl ei deilyngdod ei hun.
Sut i wneud cais?
Dylid gwneud ceisiadau yn uniongyrchol trwy wefan Ashley Family Foundation.