Grant Cyfalaf Bach Blynyddoedd Cynnar Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn falch o gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer Grant Cyfalaf Bach Blynyddoedd Cynnar 202627 bellach ar agor.

Mae’r grant yn cynnig cyfle i leoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant wella eu hamgylcheddau a’u hadnoddau er mwyn cefnogi darpariaeth o ansawdd uchel i blant.

Er mwyn cefnogi eich cais, mae canllawiau sydd wedi’u diweddaru, templed cost prosiect a thempled cynllun gwella ar gael i’ch helpu i ddatblygu eich cynnig.

Os hoffech fynegi diddordeb mewn gwneud cais, cwblhewch y Ffurflen Microsoft drwy ddefnyddio’r ddolen isod neu’r cod QR cysylltiedig. Ar ôl ei chwblhau, dychwelwch eich cynllun gwella yn unol â’r cyfarwyddiadau yn y canllaw ymgeisio.

Ffurflen Mynegi Diddordeb: https://forms.office.com/e/akYE0n1MKH?origin=lprLink

I gael rhagor o wybodaeth am y grant, anogir clybiau gofal plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gysylltu â meganm@clybiauplantcymru.org