05.06.2026 |
Tocynnau pris cynnar bellach ar werth ar gyfer y Gynhadledd a Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol
Rydym yn falch o’ch gwahodd i fynychu ein Cynhadledd a Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2026, wrth i ni ddathlu 25 mlynedd o gefnogi gwaith chwarae a Gofal Plant All-Ysgol ledled Cymru.
Mae’r digwyddiad eleni yn arbennig iawn gan mai hon fydd ein cynhadledd mewn person gyntaf erioed ar gyfer y sector Gofal Plant All-Ysgol, ynghyd â’n seremoni wobrwyo flynyddol. Bydd y diwrnod yn cynnwys rhaglen gyffrous o weithdai, siaradwyr gwadd, cyfleoedd i rwydweithio, a dathliad o’r gwaith rhagorol sy’n digwydd ar draws y sector.
Byddwn hefyd yn cynnal seremoni raddio arbennig i gydnabod dysgwyr sydd wedi cwblhau eu cymwysterau Gwaith Chwarae, gan wneud hwn yn digwyddiad gwirioneddol ysbrydoledig a dathliadol.
Bydd uchafbwyntiau’r diwrnod yn cynnwys:
- Dathliad o’n 25 mlwyddiant
- Siaradwyr gwadd ysbrydoledig
- Gweithdai rhyngweithiol a pherthnasol
- Seremoni Gwobr Gofal Plant All-Ysgol 2026
- Seremoni raddio ar gyfer dysgwyr Gwaith Chwarae
Dyddiad: 3 Hydref 2026
Lleoliad: The Holiday Inn, Canol Dinas Caerdydd, Castle St, Caerdydd CF10 1XD
Amser: 9.00AM
Gallwch archebu eich lle drwy ein gwefan: 🎉Cynhadledd a Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2026 (22670)🎉 – Clybiau Plant Cymru (CY)
Aelodau**
- Prisiau tocynnau: £40.00 cyffredin
- Pris cynnar: £35.00 tan 31 Gorffennaf
Pobl nad ydynt yn aelodau
- Prisiau tocynnau: £45.00 cyffredin
- Pris cynnar: £40.00 tan 31 Gorffennaf
Rydym yn gobeithio’n fawr y byddwch yn gallu ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad hanesyddol hwn wrth inni ddathlu rhagoriaeth, cyflawniad a dyfodol y sector.
**Bydd aelodau ar 31 Mai 2026 yn cael cod disgownt unigryw drwy e-bost. Os nad ydych wedi cael eich cod, cysylltwch â ni’n uniongyrchol: membership@clybiauplantcymru.org