23.01.2026 |
Gwneud y Cynnig Gweithredol – Lle i ddechrau?
Dyddiad: 27 Ionawr 2026, 10am hyd 1pm
Lleoliad: Ar-lein, dros Teams
Sefydliad: Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell. Yn y sesiwn hon, byddwch yn clywed beth sydd angen i chi ei wneud, a pha adnoddau sydd ar gael i’ch cefnogi er mwyn darparu gwasanaethau o ansawdd i siaradwyr Cymraeg a gweithredu’r cynnig gweithredol.
Pwy mae’r digwyddiad hwn ar gyfer
Mae’r sesiwn hon ar gyfer gyflogwyr gweithwyr gofal cofrestredig ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys Unigolion Cyfrifol a rheolwyr cofrestredig.
Cynnwys y sesiwn
Ymunwch â ni er mwyn:
- Deall pwysigrwydd y ‘cynnig gweithredol’
- Cael gwybodaeth am yr adnoddau rhad ac am ddim sydd ar gael i’ch cefnogi.
- Clywed gan eraill sydd wedi manteisio ar y cymorth a’r effaith y mae hyn wedi cael are eu gwasanaeth
- Cymryd rhan mewn sgyrsiau a rhannu eich profiadau, heriau a chyfleoedd
- Siarad â thiwtoriaid sydd ar gael i’ch arwain
Meddwl am eich camau nesaf.