Chwilio
Eng | Cym
Dangosfyrddau

Darperir hyfforddiant yn ddi-dâl fel arfer i’r clybiau sydd wedi ymaelodi â ni. Mae’n bosibl y bydd cyfyngiadau mewn achosion lle darperir yr ariannu gan awdurdod lleol neu arianwyr arbennig a fydd yn caniatáu aelodau o ardal benodol yn unig i fod yn bresennol. Gwelwch bob cwrs yn ein rhaglen i sicrhau eich bod yn gymwys, neu ffoniwch eich swyddfa leol.

Mewn rhai achosion gall rhai nad ydynt yn aelodau yn ogystal archebu lle ar ein cyrsiau hyfforddi. Rhaid i rai nad ydynt yn aelodau dalu ffi archebu (na ellir ei had-dalu).

Rhaid talu pob ffi archebu lle/ffi gwrs o fewn 3 diwrnod gwaith. Dylech dderbyn cadarnhad o’ch lle o fewn 5 niwrnod wedi talu. Os na fyddwch yn derbyn cadarnhad, cysylltwch â’ch Swyddfa Ranbarthol

Canslo:

Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol mewn unrhyw sesiynau sydd wedi eu harchebu, RHAID i chi roi rhybudd o 48 awr o leiaf. Bydd methiant i fod yn bresennol mewn sesiwn, heb fod wedi rhoi rhybudd digonol, yn golygu codi tâl arnoch am ddiffyg presenoldeb.

 

Rydym yn Is-gontractiwr i Chwmni Hyfforddiant Cambrian i gylfenwi Prentisiaethau mewn Gwaith Chwarae.
Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

 

 

 

Cyrsiau Hunanastudio ar Arferion Gwrth-hiliaeth ar gyfer gweithwyr Gofal Plant, Gwaith Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar

Gwybodaeth pellach
Hyfforddiant

Manteision Hyfforddiant

Dywed Egwyddor Gwaith Chwarae 6 “Seilir ymateb y gweithiwr chwarae i chwarae plant a phobl ifanc ar wybodaeth gadarn a chyfamserol o’r broses chwarae ac arferion myfyriol”; mae ein hyfforddi’n rhoi’r cymorth sydd ei hangen arnoch i gyflawni hyn.

 

Gwell arferion a Arweinir gan Blant

Gall hyfforddiant eich helpu i ystyried anghenion y plant yn eich cymuned a sut y gallwch ymateb i’w hoffterau chwarae.

Tyfu’ch gyrfa

P’un a ydych yn cwblhau cymwysterau neu ddatblygiad proffesiynol parhaus gall ein hyfforddiant eich helpu i dyfu mewn hyder, sgiliau a gwybodaeth. Mae nifer o’n dysgwyr yn symud ymlaen i rolau newydd a lefelau uwch.

Bod eich llais yn cael ei glywed

Mae hyfforddiant yn annog cyfranogwyr i fyfyrio ar eu syniadau ac yn eu grymuso i fod yn eiriolwyr cryfach i blant a chwarae.

Bod yn fwy chwareus

Rydym nid yn unig darparu syniadau hwyliog i chi eu hymarfer; gallwn hefyd eich helpu i ddeall eich rhan chi yn y cylch chware, pan fydd angen ymyrryd a phan ddylid osgoi gwneud hynny.

Newyddion

Y Newyddion diweddaraf gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs

Nodwch yma i dderbyn crynodeb wythnosol

 

Gweld pob post

30.05.2025

Codi Arian ar gyfer Tŷ Hafan

Mae staff Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn enwebu elusen sy’n agos at ein calonnau i’w chefnogi drwy godi arian […]

Darllen mwy

30.05.2025

Wythnos Gwirfoddolwyr – Diolch enfawr!

Mae Mehefin 2ai  i’r  8fed yn wythnos Gwirfoddolwyr, Mae’n bryd diolch i’r Sector Gwirfoddol sy’n chwarae rhan enfawr mewn rhan […]

Darllen mwy

30.05.2025

Tyfu’ch Gwledd eich Hun

Mae ein hadnodd, sy’n cefnogi eich clwb i feddwl am gynnal yr amgylchedd a thyfu ein bwyd ein hunain gyda’r […]

Darllen mwy
CYSYLLTWCH Â NI

Angen cymorth? Rydyn ni yma – estynnwch allan!  

Os ydych chi’n glwb sy’n chwilio am arweiniad; gweithiwr chwarae sydd eisiau dechrau eich gyrfa; neu os oes ddiddordeb yn y sector gennych ac eisiau gwybod mwy: gadewch i ni weithio gyda’n gilydd. Fe roddwn ni’r offer a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo.

 

Cysylltwch  Ni

Nodwch yma i dderbyn crynodeb wythnosol!