
19.09.2025 |
Hyfforddiant gan Adoption UK a ariennir gan Llywodraeth Cymru
Gyda chyllid gan Llywodraeth Cymru, mae Adoption UK Cymru wedi datblygu hyfforddiant sy’n rhad ac am ddim i staff mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar, ysgolion Cynradd neu Uwchradd.
Mewn sesiwn tair awr, byddwch yn archwilio pam y gall dysgwyr sydd wedi’u mabwysiadu neu sydd â phrofiad o ofal wynebu heriau wrth reoleiddio eu hymddygiad. Byddwch yn dysgu am ddulliau therapiwtig a pherthynol a ddefnyddir gan rieni mabwysiadol a gofalwyr, a sut y gellir eu haddasu i sefyllfaoedd mewn lleoliadau. Bydd cyfleoedd i drafod y ddamcaniaeth y tu ôl i hyn ac i rannu profiadau gyda gweithwyr proffesiynol eraill.
Bydd y sesiynau ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar yn cael eu cynnal:
Dydd Mercher, 22 Hydref
Dydd Llun, 10 Tachwedd
Dydd Llun, 10 Rhagfyr
Gallwch gofrestru yma: Supporting care experienced learners | Eventbrite