04.10.2022 |
PWYSIG – MAE ANGEN EICH PLEIDLAIS!
Mae’n bleser mawr gennym eich gwahodd i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) ar-lein, a fydd yn digwydd trwy dechnoleg Zoom. Fe’i cynhelir ar:
Ddydd Mawrth, Hydref 18fed
10:30yb – 12:30yp
Ar-lein
Byddem yn falch iawn pe gallech ymuno â ni am adolygiad o’r flwyddyn ariannol ddiwethaf, ond hefyd i ddefnyddio eich hawliau pleidleisio. Gofynnwn i chi glicio ar y linc yma i archebu’ch lle.
Os na allwch ddod, gofynnwn i chi ymarfer eich hawl i bleidleisio drwy gwblhau pleidlais ddirprwyol ar-lein. Mae hyn yn rhoi caniatâd i rywun (y Cadeirydd neu aelod o’r staff) i bleidleisio ar eich rhan. Er mwyn i’n CCB fod â chworwm, mae arnom angen o leiaf 10% o’n haelodaeth i bleidleisio, felly gofynnwn i chi ein helpu i ateb ein rhwymedigaethau cyfreithiol drwy bleidleisio yma.
Felly i grynhoi, mae arnom angen i chi weithredu ar dderbyn y e-bost yma; naill ai trwy fwcio eich lle i fod yn bresennol yn y CCB rhithiol NEU drwy benodi dirprwy i bleidleisio ar eich rhan trwy ddefnyddio’r dolenni uchod.