Jar Meddylgarwch

Cymerwch jar neu botel lân, wag, a’i llenwi ¾ llawn â dŵr.  

Nesaf, ychwanegwch lud clir, llewych a bwydliw. 

Seliwch top y jar/botel yn dynn ac ysgwydwch!  

Eglurwch i’r plentyn/plant fod y llewych fel ein meddyliau – wedi eu hysgwyd tan ei bod yn anodd gweld yn glir, fel ar yr adegau pan fyddwn ni’n flin neu’n ddigalon. 

Gosodwch y jar o’u blaenau a gwyliwch y llewych yn syrthio ac yn setlo’n llonydd. Yn awr eglurwch, pan fyddwn yn llonydd ac yn cymryd ychydig funudau, y gall ein meddyliau ymlonyddu, yn union fel y llewych, a gallwn ddechrau gweld yn gliriach unwaith eto. 

How to Make a Glitter Jar for Mindfulness – Easiest Recipe! – HeartMindKids