Mae DBS yn lleihau ffioedd ar gyfer gwiriadau a’r Gwasanaeth Diweddaru o 5 Hydref 2026 ymlaen

Mae newyddion da i ddarparwyr gofal plant yr wythnos hon! Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn lleihau cost gwiriadau DBS a thanysgrifiadau’r Gwasanaeth Diweddaru o ddydd Llun 5 Hydref 2026.  

Y ffioedd newydd fydd:  

  • Gwiriad DBS Sylfaenol: £20 – wedi’i ostwng o £21.50 
  • Gwiriad DBS Safonol: £20 – wedi’i ostwng o £21.50 
  • Gwiriad DBS Uwch: £41 – wedi’i ostwng o £49.50 
  • Gwasanaeth Diweddaru: £15 y flwyddyn – wedi’i ostwng o £16 
  • Gwiriadau DBS gwirfoddolwyr: yn parhau am ddim

Y gostyngiad mwyaf yw ar gyfer gwiriadau DBS Uwch, sy’n ofynnol yn aml i’r rhai sy’n gweithio mewn gweithgareddau rheoleiddiedig gyda phlant.  

Mae’r DBS wedi cadarnhau na fydd y gostyngiadau hyn yn cael unrhyw effaith ar safon na thrylwyredd gwiriadau DBS. 

Cewch rhagor o wybodaeth am y gostyngiadau DBS: 
Mae DBS yn lleihau ffioedd ar gyfer gwiriadau a’r Gwasanaeth Diweddaru o 5 Hydref 2026 ymlaen