04.09.2026 |
Pecyn Cymorth Iechyd Cyhoeddus Cymru
Pecyn cymorth Cyfathrebu Brechlyn Ffliw Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gall ffliw ledaenu’n gyflym mewn amgylcheddau meithrin, ac mae brechu yn un o’r ffyrdd gorau o helpu i amddiffyn plant ifanc rhag dal a lledaenu’r ffliw. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu pecyn cymorth cyfathrebu ar gyfer meithrinfeydd a lleoliadau blynyddoedd cynnar sy’n cefnogi teuluoedd â phlant 2 a 3 oed.
Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys adnoddau parod i’ch helpu i hyrwyddo pwysigrwydd brechu ffliw i rieni a gofalwyr, e.e. negeseuon testun a WhatsApp parod. Mae’r pecyn cymorth wedi’i gynllunio i’w gwneud mor hawdd â phosibl i chi rannu gwybodaeth ddibynadwy gyda theuluoedd.
Gallwch gael mynediad i’r pecyn cymorth drwy dudalen we PHW: Pecyn cymorth cyfathrebu brechlyn ffliw – Iechyd Cyhoeddus Cymru