04.09.2026 |
Rhannwch gyda theuluoedd fel y gellir clywed eu llais – Arolwg Rhieni
Mae Arolwg Rhieni Llywodraeth Cymru ar gyfer Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant (CSA) 2027 bellach ar agor. Nod yr arolwg yw casglu adborth gwerthfawr ar brofiadau ac anghenion gofal plant ledled Cymru.
Gwahoddir rhieni a gofalwyr plant rhwng 0 a 17 oed i rannu eu barn ar bynciau gan gynnwys:
- Argaeledd a hygyrchedd gofal plant
- Costau gofal plant a fforddiadwyedd
- Gofal plant a ariennir a chymorth gyda gofal plant
- Gofal plant cyfrwng Cymraeg
- Gofal plant i blant ag anghenion ychwanegol
- Anghenion gofal plant yn y dyfodol
Bydd yr adborth a gasglir yn helpu Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddeall anghenion lleol o ran gofal plant ac i gynllunio gwasanaethau a chymorth ar gyfer y dyfodol.
Anogwch y teuluoedd rydych chi’n gweithio gyda nhw i gwblhau’r arolwg, a rhannwch y ddolen drwy eich sianeli cyfathrebu eich hunain lle bo modd.
Survey of parents and carers – 2027 Childcare Sufficiency Assessments