28.06.2024 |
Atal dros dro y cynlluniau i newid gwyliau’r ysgol
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cadarnhau na fydd cynlluniau i newid gwyliau’r ysgol yn digwydd yn ystod tymor y Senedd hon er mwyn rhoi cyfle ac amser i athrawon a staff gyflwyno diwygiadau eraill.
Mae hyn yn dilyn ymateb cymysg o’r ymgynghoriad addysgol fwyaf erioed a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, â’r bwriad i rannu gwyliau’r ysgol yn fwy cyfartal drwy’r flwyddyn gyfan.
- Ni fydd cynlluniau i newid y flwyddyn ysgol yn digwydd yn ystod tymor y Senedd hon er mwyn caniatáu i ysgolion gyflenwi diwygiadau eraill a gwella cyrhaeddiad.
- Bydd y penderfyniad ynghylch yr amserlen yn cael ei ohirio tan dymor nesaf y Senedd.
- Cadarnhad na fydd newidiadau i’r flwyddyn ysgol yn digwydd yn 2025 i 2026.
Diolch i’r rhai yn eich mysg a gyfrannodd i’n hymateb i’r ymgynghoriad hwn.