
04.04.2025 |
Polisi’r Wythnos: Cyfle Cyfartal
Mae Mis Byd-eang Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth yn rhoi cyfle i asesu pa mor gynhwysol yw eich lleoliad.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi adolygu eich Polisi Cyfle Cyfartal?
Mae’r polisi hwn yn dangos bod clwb wedi ymrwymo i gefnogi hawliau plant a rhoi cyfleoedd cyfartal i pob plentyn a’u teuluoedd, yn ogystal â’r sawl sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli yn y clwb.
Mae’n bwysig bod y polisi hwn yn cael ei ddiweddaru o ran terminoleg a deddfwriaeth. Defnyddiwch ein templed i groesgyfeirio â’ch un chi a sicrhau bod eich polisi yn arddangos safon uchel.