🎉Cynhadledd a Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2026 (22670)🎉

£45.00

📅 Dyddiad: Dydd Sadwrn, 3ydd Hydref 2026

🕓Amser: 9:00am–3:30pm

📍Lleoliad: Holiday Inn, Caerdydd CF10 1XD

**Bydd ffi archebu yn berthnasol

20 in stock

Nifer:

Disgrifiad

🎉Dathliad 25 mlynedd gyda Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs 🎉

Rydym yn falch o’ch gwahodd i ymuno â ni i ddathlu chwarter canrif o gefnogi, grymuso a hyrwyddo Clybiau Gofal Plant ar hyd a lled Cymru. Ymunwch â ni am ddiwrnod arbennig o ddathlu, ysbrydoliaeth a chydnabyddiaeth wrth inni gynnal ein cynhadledd a’n seremoni wobrwyo wyneb yn wyneb gyntaf erioed ar gyfer y sector Gofal Plant All-Ysgol.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys:
• siaradwyr gwadd ysbrydoledig;
• gweithdai diddorol a rhyngweithiol;
• seremoni Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2026;
• seremoni raddio ar gyfer dysgwyr sydd wedi cwblhau cymwysterau mewn Gwaith Chwarae;
• cyfleoedd i rwydweithio a dathlu gyda chydweithwyr a phartneriaid.

📅 Dyddiad: Dydd Sadwrn, 3ydd Hydref 2026

🕓Amser: 9:00am–3:30pm

📍Lleoliad: Holiday Inn, Caerdydd CF10 1XD

**Bydd ffi archebu yn berthnasol

Bydd y digwyddiad arbennig hwn yn dod a chlybiau, gweithwyr proffesiynol, a phartneriaid o bob rhan o’r sector at ei gilydd ar gyfer diwrnod o ysbrydoli, dysgu, cysylltu — a dathlu!

Nodwch y dyddiad yn eich calendr nawr — peidiwch â cholli’r cyfle! 

Agenda