Chwilio
Eng | Cym
Dangosfyrddau

Gweithdai

Chwarae’n Syml cyflwynir gan Sam James, Uwch Weithiwr Chwarae Vale Play Team 

Yn y sesiwn hon, mae Sam yn rhannu straeon am chwarae o’i brofiad fel gweithiwr chwarae, ynghyd ag atgofion o’i blentyndod ei hun. Mae’n archwilio’r profiadau sy’n aros gyda ni, yn llunio ein dealltwriaeth o chwarae, ac yn dylanwadu ar ein harfer. Mae’r sesiwn hon yn ddathliad o chwarae a’r plant rydym yn gweithio gyda nhw. 

Sicrhau ansawdd mewn gwaith chwarae – cyflwyniad i Chwarae o Safon – Marc Ansawdd Gwaith Chwarae cyflwynir gan Martin King Sheard, Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Polisi a Strategaeth y Gweithlu, Chwarae Cymru  

Mae Chwarae Cymru wedi gweithio gyda’r sector gwaith chwarae i ddatblygu cynllun sicrhau ansawdd allanol ar gyfer gwaith chwarae. Drwy ddefnyddio’r bathodyn ‘Chwarae o Safon’, gall lleoliadau weithio tuag at ennill marc ansawdd digidol sy’n cydnabod eu hymrwymiad i arfer gwaith chwarae o safon. Bydd y gweithdy hwn yn rhoi cyflwyniad i’r fframwaith ansawdd, yn archwilio’r dangosyddion ansawdd, yn datblygu dealltwriaeth o’r broses hunanasesu, ac yn darparu cyfle i drafod y broses o sicrhau ansawdd allanol. Ar hyd y ffordd, byddem yn gobeithio cael ychydig o hwyl a hyrddiau o chwerthin wrth i ni archwilio beth mae arfer gwaith chwarae o safon yn ei olygu go iawn. 

Ace Hyb Cymru cyflwynir gan Natalie Blake Borough, Dirprwy Arweinydd – Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) Cymru 

Yn y gweithdy hwn, byddwn yn archwilio Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma, gan ystyried beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol i wasanaethau gofal plant, a rhannu enghreifftiau o adnoddau i gefnogi’r gwaith o wreiddio arfer sy’n ystyriol o drawma ac ACE yn eich lleoliadau. 

Chwerthin, Gliter a Thosturi – Dathlu Arweinyddiaeth Chwareus cyflwynir gan Bex Steen, Rheolwr Datblygu Arweinyddiaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru 

Mae chwarae wrth galon gofal plant y tu allan i’r ysgol, acy tu ôl i bob lleoliad llawn hwyl mae tîm sy’n teimlo ei fod yn cael ei gefnogi, ei werthfawrogi a’i ysbrydoli. Mae’r gweithdy calonogol hwn yn archwilio sut mae arweinyddiaeth dosturiol yn helpu gweithwyr chwarae a thimau i ffynnu go iawn. Gan gyfuno mewnwelediad bywyd go iawn â myfyrio, hiwmor a mymryn o hud, byddwn yn dathlu’r rôl anhygoel y mae gweithwyr chwarae yn ei chwarae wrth rannu ffyrdd syml ac ymarferol o arwain gyda charedigrwydd, hyder a chalon. Gyda’n gilydd, byddwn yn archwilio sut y gall gweithredoedd bach o dosturi greu timau cryfach, profiadau chwarae cyfoethocach a mannau lle gall pawb ffynnu. Disgwyliwch gynhesrwydd, chwerthin a digon o eiliadau “mae hynny mor wir!” – ynghyd â syniadau y gallwch eu cymryd yn ôl a’u defnyddio ar unwaith. 

Grym Chwarae cyflwynir gan Ben Kingston-Hughes, Rheolwr Gyfarwyddwr Inspired Children 

Mae Ben Kingston-Hughes yn brif siaradwr rhyngwladol, yn awdur ac yn hyfforddwr sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae’n gweithio gyda phlant agored i niwed ledled y DU ac mae wedi ymddangos ar y teledu yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau plant. Mae ei gyfuniad unigryw o hiwmor, niwrowyddoniaeth a phrofiadau bywyd go iawn wedi gwneud ei hyfforddiant yn amhrisiadwy i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant. 

Deall Ymddygiad, cyflwynir gan Elinor Newland Jones, Swyddog Hyfforddi, a Dawn Bunn, Rheolwr Hyfforddi Cenedlaethol, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs 

Mae’r sesiwn hon yn archwilio’r hyn y gall ymddygiad plant ei ddweud wrthym a sut y gallwn gefnogi plant mewn ffordd gadarnhaol pan fydd ymddygiad yn dod yn heriol, gan:  

  • Myfyrio ar sefyllfaoedd lle mae ymddygiad wedi herio disgwyliadau’r clwb. 
  • Ystyried sut i weithio’n adeiladol gyda phlant a’u teuluoedd er mwyn dod o hyd i ffyrdd cadarnhaol o symud ymlaen. 
  • Archwilio ffyrdd o helpu plant i ymdopi o fewn cytundebau’r grŵp, gan barhau i barchu a chefnogi eu dewisiadau chwarae. 
  • Trafod sut i ddiwallu anghenion unigol plant heb gael effaith negyddol ar chwarae a phrofiadau plant eraill.

Iechyd Meddwl a Lles mewn Gwaith Chwarae – defnyddio fframwaith NYTH, cyflwynir gan Clare Dare, Prif Swyddog Datblygu Busnes Gofal Plant, ac Alex Fudge, Rheolwr Datblygu Gorllewin Cymru, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
 

Mae Llywodraeth Cymru, Chwarae Cymru a Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi datblygu adnoddau hyfforddi newydd ar gyfer gwaith chwarae i gefnogi gweithwyr chwarae a staff gofal plant i ddefnyddio fframwaith NYTH yn eu harfer gwaith chwarae. Mae fframwaith NYTH yn ddull system gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a lles babanod, plant a phobl ifanc. Mae’n cyflwyno set gyffredin o egwyddorion ar draws sectorau i helpu i adeiladu cymorth cydgysylltiedig ar gyfer iechyd meddwl a lles plant a theuluoedd.
 

Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno fframwaith NYTH ac yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar rai o’r gweithgareddau a’r adnoddau newydd sydd wedi’u datblygu ar gyfer y sector gwaith chwarae. 

The Welsh Promise in Practice delivered by Welsh Language Business Development Officer team, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs 

This workshop explores how the Welsh Promise supports practitioners to  

  • Strengthen your engagement with families to support children’s learning and help embed the Welsh language in everyday experiences. 
  • Create a rich, supportive environment that naturally encourages Welsh language development. 
  • Participants will also identify meaningful opportunities to promote and use Welsh across routines, play, and interactions in line with the Welsh Promise. 

Play in Winter Weather: Come Rain or Dark delivered by Phoebe Wilson, Lead Training Officer & Sarah Bird, Lead IQA Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs 

As the days grow shorter and the weather becomes colder, wetter and darker, outdoor play can often be reduced or avoided altogether. This session explores the importance of embracing winter play and creating meaningful opportunities for children to play outdoors throughout the darker months. Together, we will consider practical ideas, risk-benefit thinking, seasonal environments, and ways to support confidence, wellbeing, resilience and joy through play in all weathers, finishing with a couple of practical games that you can take away to play. 

Nodwch yma i dderbyn crynodeb wythnosol!