Gweithdy Ymarferol Gweithiwr Chwarae: Caerdydd – Tân, Chwedlau a Rhyddid: Antur Gwaith Chwarae Cymreig – 30 Tachwedd 2026 (22745)

£0.00

6:30pm-8:30 PMClybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, Ty’r Bont, Ffordd yr Orsaf, Llanisien, Caerdydd CF14 5UW

Ar agor i Dysgwyr (gorffennol a phresennol) a Lleoliadau sy’n Aelodau yn unig.

Out of stock

Disgrifiad

Ymunwch â ni yr hydref hwn am sesiwn Ymarferol Gwaith Chwarae hwyliog a rhyngweithiol gyda blas Gymreig, lle byddwn yn camu’n ôl mewn amser ac yn archwilio sut y gall hanes, straeon a thraddodiadau cyfoethog Cymru ysbrydoli chwarae plant. Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn canolbwyntio ar chwarae ail-grynhoi (recapulative play), gan archwilio sut mae plant yn ail-greu ac yn ymchwilio’n naturiol i elfennau o hanes dynol drwy chwarae. Gyda’n gilydd, byddwn yn cael ein hysbrydoli gan y Celtiaid, y Mabinogion, tân, natur, sgiliau traddodiadol a ffyrdd hynafol o fyw i greu profiadau chwarae y gellir eu haddasu a’u cymryd yn ôl i’ch lleoliad.

Paratowch i ymdrochi’n llawn wrth i ni archwilio rhannau rhydd, chwarae dychmygus, adeiladu cuddfannau, tân a phrofiadau synhwyraidd, gemau traddodiadol, adrodd straeon a chwarae mentrus, oll wedi’u hysbrydoli gan Gymru yn y gorffennol. Byddwn yn ystyried sut y gall deunyddiau ac amgylcheddau syml ennyn chwilfrydedd plant a rhoi’r cyfle iddynt archwilio themâu goroesi, creadigrwydd, cymuned ac antur drwy eu chwarae eu hunain.
Fel siaradwyr Cymraeg ein hunain, byddwn hefyd yn ymgorffori’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn y sesiwn, gan ymchwilio i sut y gellir cynnwys geiriau, straeon, cymeriadau a thraddodiadau Cymraeg yn naturiol mewn chwarae heb amharu ar brofiad chwarae sy’n cael ei arwain gan y plentyn.

Dyma gyfle i fynd allan yn yr awyr agored, cael profiad ymarferol ac efallai gweld hanes Cymru o safbwynt hollol wahanol, sef drwy lygaid plentyn wrth chwarae!
Dewch yn barod i archwilio, creu, mynd ychydig yn fwdlyd a theithio’n ôl mewn amser wrth i ni ddarganfod sut y gall Cymru hen ysbrydoli chwarae plant heddiw.

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, felly sicrhewch eich bod yn archebu’n gynnar i sicrhau eich lle!
Ar agor i Dysgwyr (gorffennol a phresennol) a Lleoliadau sy’n Aelodau yn unig.

Agored i Ddysgwyr ac Aelodau Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs

Dyddiad ac Amser: 30 Tachwedd 2026 6:30pm-8:30pm

Lleoliad: Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, Ty’r Bont, Ffordd yr Orsaf, Llanisien, Caerdydd CF14 5UW