
15.02.2025
Sefydliad Moondance
Aelodaeth a Lleoedd Gofal Plant a Ariannwyd
Trwy gymorth gan Moondance Foundation, rydym yn falch o allu cynnig aelodaeth sydd wedi’u hariannu’n llawn i bob Clwb Gofal Plant All-Ysgol yng Nghymru tan fis Mawrth 2025, ynghyd â lleoedd gofal plant sydd wedi’u hariannu.
Mae manteision aelodaeth yn cynnwys: cael diweddariadau wythnosol ac adnoddau a gweithgareddau sy’n rhad ac am ddim, byddwch y person cyntaf i glywed am gymhwysterau sydd wedi’u hariannu a gyfleodd ar gyfer Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus a chael mynediad i dîm proffesiynol a wybodus am unrhyw ymholiadau a chymorth.
Gall aelodau sydd wedi cofrestru â’r AGC wneud cais am leoedd a ariennir o 01/04/2025 tan 31/08/2025 i ganiatáu mynediad i blant nad ydynt fel arfer yn gallu mynychu’r ddarpariaeth, a fyddai’n elwa o gyfleoedd chwarae y tu allan i oriau ysgol, gan gefnogi ymgysylltiad cymdeithasol a lles meddyliol.
Dylai Clybiau Gofal Plant All-Ysgol sydd wedi cofrestru ag AGC a Clybiau Plant Cymru cysylltu â’u Swyddog Datblygu Busnes Gofal Plant rhanbarthol os oes ganddynt ddiddordeb mewn cynnig lleoedd sydd wedi’u hariannu.
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch Moondance Foundation am eu cyfraniad hael. Rydym yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth barhaus wrth ein helpu i gyflawni ein swyddogaeth.
Adroddiad Blynyddol i’r Moondance Foundation Ionawr i Ragfyr 2024
Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn cydweithio o’r newydd gyda Sefydliad Moondance i gefnogi ein sector i oroesi a ffynnu yng Nghymru wedi’r Pandemig. Drwy’r arian a dderbyniwyd o sefydliad Moondance, mai modd i ni yn awr gynnig grantiau i gefnogi/cynnal clybiau presennol ac i ddatblygu clybiau a lleoedd newydd, wedi eu teilwra’n benodol ar gyfer lleoliadau Gofal Plant Allysgol ar hyd a lled Cymru.
Ar hyn o bryd mae gennym nifer cyfyngedig o grantiau gwerth £1,500 yr un, ar gael i gefnogi cynaliadwyedd lleoliadau, a £3,500 i gynorthwyo clybiau newydd yn eu datblygiad.
Dyfernir grantiau ar sail gylchol hyd nes bo’r ariannu wedi ei ddyrannu. Am fwy o fanylion cysylltwch â membership@clybiauplantcymru.org.
Canllawiau:
Caiff y ceisiadau eu barnu yn ôl amcanion y grant ac yn erbyn ceisiadau eraill.
£1,500 fydd swm y grant mwyaf a ddyfernir.
Ni ellir dyfarnu ariannu yn adolygol.
Mae’r grant hwn ar gyfer cynnal darpariaethau gofal-plant o ansawdd da. Y mae’n amod nad ydyw i’w ddefnyddio i gynnal elw.
Rhaid bod yr ymgeiswyr heb dderbyn ariannu o sefydliad Moondance o fewn y 12 mis diwethaf.
Blaenoriaethir clybiau sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru neu’r rhai sy’n cofrestru o fewn 12 mis.
Rhaid i’r ymgeiswyr gwblhau asesiad Gofal Plant Allysgol ac ymrwymo i gamau y cytunwyd arnynt i gefnogi datblygiad a chynaliadwyedd yn y dyfodol.
Grant Lleoedd a Gynorthwyir i Glybiau Gofal Plant Allysgol
Trwy gefnogaeth gan The Moondance Foundation, mae cyfle wedi codi i gynnig grantiau Lleoedd Gofal Plant a Ariennir i Glybiau Gofal Plant Allysgol.
Mae cyllid bellach ar gael ar gyfer 04/09/2023 hyd at 22/12/2023 i roi mynediad i blant na fyddent fel arfer yn gallu mynychu darpariaeth ac a fyddai’n elwa o gyfleoedd chwarae y tu allan i’r diwrnod ysgol, gan felly gefnogi ymgysylltiad cymdeithasol a lles meddyliol.
Dylai Clybiau Gofal Plant Allysgol sydd wedi’u cofrestru gydg AGC, sy’n aelodau o Glybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, ac â diddordeb mewn cynnig lleoedd wedi’u hariannu, gysylltu â’u Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant rhanbarthol.
Adroddiad Lleoedd a Ariennir y Moondance Foundation
Our partners
Project’s partners
