Diogelu Pwyllgorau Clybiau Gofal Plant All-Ysgol

Mae Pwyllgorau Rheoli Gwirfoddol yn cyflenwi Gofal Plant All-Ysgol hanfodol a fforddiadwy i’w cymunedau, ac yn golygu bod clybiau’n cael eu harwain gan eu defnyddwyr gwasanaeth ac aelodau eu cymuned.  Gall bod yn rhan o bwyllgor rheoli Clwb Gofal Plant Allysgol fod yn bleserus, roi boddhad a chynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau newydd.

 

Mae nifer o bwyllgorau rheoli gwirfoddol wedi eu sefydlu fel cymdeithasau anghorfforedig.  Golyga hyn y gall aelodau unigol o’r pwyllgor fod yn bersonol gyfrifol am rwymedigaethau’r clwb os yw asedau’r sefydliad yn annigonol i ateb ei rwymedigaethau.  Dylai clybiau sy’n cyflogi staff, yn prydlesu eiddo ac yn dod yn rhan o gontractau, gyfyngu eu hatebolrwydd personol a gwarchod aelodau yn ddigonol drwy ddod yn gorfforedig.  Mae gan sefydliad corfforedig ei bersonoliaeth gyfreithiol ei hun, a gall ddod yn rhan o berthnasoedd cyfreithiol ar ei liwt ei hun.

 

Gall Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs helpu pwyllgorau sy’n sefydliadau anghorfforedig i gyfyngu ar eu cyfrifoldeb personol drwy eu helpu i ddod yn strwythur sy’n cynnig mwy o warchodaeth, ac mae’n argymell  y model Sefydliad Corfforedig Elusennol Corfforedig (SCE).

 

Manteision dod yn Sefydliad Corfforedig Elusennol

  • Mae aelodau’r pwyllgor wedi’u gwarchod. Gan ei fod yn gorfforedig, nid yw’r unigolion perthnasol yn agored i’r posibilrwydd o orfod bod yn bersonol gyfrifol am dalu unrhyw rwymedigaethau os yw’n methu (ac eithrio mewn achosion o gamweithredu difrifol o’u rhan eu hunain).
  • Rhaid i glybiau sydd ag amcanion elusennol ac incwm blynyddol sy’n uwch na’r trothwy (£5,000) gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau. Mae’r model SCE yn fodel a wnaed yn symlach ac yn llyfn er mwyn ennill statws fel elusen a chael eu hymgorffori, a chaiff y Clybiau hyn eu rheoleiddio gan y Comisiwn Elusennau yn unig.
  • Hwb i enw da o fod dan reoleiddiad y
  • Comisiwn Elusennau.
  • Bydd yn haws recriwtio aelodau pwyllgor gan
  • fod y model yma’n eu gwarchod yn well.
  • Mae elusennau’n cael gostyngiad yn eu trethi.
  • Mynediad at fwy o grantiau ac ariannu.
  • Gellir dal i gadw elw i ateb anghenion y cymunedau y mae’r Clybiau’n eu gwasanaethu.

 

Gall Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs roi cefnogaeth gam wrth gam i helpu Clybiau i symud i’r strwythur mwy gwarchodol hwn. Am fwy o wybodaeth:

www.clybiauplantcymru.org

www.facebook.com/clybiau

 

Swyddfa Caerdydd:

029 2074 1000 / info@clybiauplantcymru.org

 

Swyddfa Bae Colwyn:

01492 536318 / info-nw@clybiauplantcymru.org

 

Swyddfa Cross Hands:

01269 831010 / info-ww@clybiauplantcymru.org