26.06.2026
Eirioli dros Hawliau Plant
Yn ystod ein Clwb Hwb diweddar gyda Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, cawsom arddangosiad o’r amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael i’ch cefnogi chi a’ch Clwb i fyfyrio ar sut rydych yn eirioli dros blant ac yn eu cefnogi i ddeall eu hawliau.
Mae gan Gomisiynydd Plant Cymru ystod eang o wybodaeth gefnogol i gynorthwyo oedolion sy’n gweithio gyda phlant.
Gwnewch yn siŵr bod gennych cyrchiad at eu gwefan a defnyddiwch ein hadnodd Cefnogi Fy Hawliau yn fy Nghlybiau Gofal Plant All-Ysgol.
Myfyriwch ac ymatebwch er mwyn sicrhau eich bod yn eirioli dros bob plentyn a’u hawliau yn y gymdeithas.
Bydd recordiad o gyflwyniad Swyddfa’r Comisiynydd ar gael cyn bo hir ar ein gwefan yn Gymraeg ac yn Saesneg i unrhyw un a allai fod wedi’i golli.
- Adnoddau – Comisiynydd Plant Cymru
- Cefnogi fy Hawliau i yn fy Nghlwb Allysgol i – Clybiau Plant Cymru (CY)
- Enghraifft o Erthygl 31