22.05.2026
🌙Eid al-Adha
Mae Eid al-Adha yn un o’r gwyliau pwysicaf yng nghalendr y Mwslimaidd, ac mae’r union ddyddiad yn dibynnu ar leoliad y lleuad.
Mae Mwslemiaid yn dathlu parodrwydd ac ufudd-dod Abraham i Allah. Mae Eid al-Adha yn nodi diwedd yr Hajj, sef y bererindod flynyddol i Makkah a phumed piler Islam. Mae’r bererindod flynyddol yn symbol pwysig o amrywiaeth ac undod, lle mae pobl yn dod at ei gilydd o bob cwr o’r byd waeth beth fo’u lliw, eu statws neu eu hil, gan gyflawni gweithredoedd addoli gyda’i gilydd.
Efallai y bydd Mwslemiaid yn mynd i’r mosg ar gyfer gweddi foreol; yn aberthu dafad neu afr, yn rhoi i elusen, yn rhannu prydau bwyd gyda theulu a ffrindiau, yn anfon cardiau ac yn rhoi anrhegion.
Syniadau gweithgaredd
- Dylunio cardiau cyfarch ar gyfer teulu a ffrindiau
- Gwneud llusernau papur neu addurniadau
- Cyflwyno gweithgaredd coginio
- Sefydlu ardal chwarae rôl e.e. mosg ffug, ardal fwyta, neu fan ar gyfer rhoi anrhegion.