Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) Wedi’u Diweddaru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) wedi’u diweddaru ar gyfer gofal plant rheoleiddiedig a chwarae mynediad agored rheoleiddiedig.

Mae’r newidiadau yn disgyn i ddau brif gategori: y rhai a wnaed yn dilyn adolygiad o’r Safonau ac ymgynghoriad cyhoeddus, a diweddariadau arferol a wneir i sicrhau bod y Safonau yn gydnaws â pholisïau a deddfwriaeth gyfredol.

Gellir darllen crynodeb o’r newidiadau allweddol yma:

https://www.llyw.cymru/safonau-gofynnol-cenedlaethol-ar-gyfer-gofal-plant-reoleiddir-i-blant-hyd-12-oed-canllawiau-crynodeb-newidiadau

Argymhellir bod darparwyr yn ymgyfarwyddo â’r fersiwn ddiwygiedig hon o’r Safonau a’u bod yn cael gwared ar unrhyw gopïau papur blaenorol.

Angen help i ddeall y newidiadau? Cysylltwch â ni am gymorth contact@clybiauplantcymru.org