15/09/2026 |
Darparwr Gofal Plant ar gyfer achlysur penodol – Clwb Cariad Limited, Casnewydd
Dyddiad cau: 25/09/2026
Oriau: Dydd Llun – Gwener, yn ystod gwyliau’r ysgol.
Cyflog: £13.00 yr awr
Cymwysterau / profiad gofynnol:
- Byddai’r profiad/cymwysterau canlynol yn ddymunol:
- Cymhwyster gwaith chwarae neu ofal plant perthnasol.
- Profiad blaenorol o weithio gyda phlant mewn lleoliad gofal plant, gwaith chwarae, addysg neu leoliad tebyg.
- Cymhwyster Cymorth Cyntaf Pediatrig.
- Hyfforddiant neu brofiad diogelu.
- Sgiliau Cymraeg sylfaenol.
Disgrifiad o’r Dyletswyddau:
- Darparu cymorth sylwgar, gofalgar a chynhwysol i blant rhwng 4-11 oed.
- Goruchwylio plant a sicrhau eu lles a’u diogelwch bob amser.
- Cynllunio a chefnogi gweithgareddau chwarae sy’n hwyl ac yn addas i’w hoedran.
- Annog creadigrwydd, annibyniaeth a datblygiad cymdeithasol plant.
- Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant, rhieni/gofalwyr a chydweithwyr.
- Dilyn gweithdrefnau a pholisïau Clwb Cariad o ran diogelu, iechyd a diogelwch ac ati.
- Cefnogi plant ag ystod eang o anghenion a galluoedd mewn ffordd gynhwysol.
- Cynnal amgylchedd glân, diogel a chroesawgar.
- Cyfathrebu’n effeithiol gyda’r tîm ehangach a rhoi gwybod am unrhyw bryderon yn briodol.
Sut i ymgeisio: Anfonwch eich CV a’ch llythyr eglurhaol drwy e-bost at: admin@clwbcariad.co.uk
Lleoliad y swydd: Pontcanna Scout Hut, CF11 9HX
Ymwadiad
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran Aelodau. Dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt a restrir yn yr hysbyseb i gael rhagor o wybodaeth, a dylent ddelio’n uniongyrchol â’r person sy’n gosod yr hysbyseb, ac nid â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd na chynnwys yr hysbyseb, nac am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb. Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn cyflogi staff ar ran unrhyw sefydliad arall.