Gweithiwr Chwarae – Cylch Meithrin Y Gurnos, Merthyr Tudful

Dyddiad cau: 19/09/2025

Oriau: 12-16 awr yr wythnos, Dydd Llun – Dydd Iau, yn ystod y tymor

Cyflog: £12.21 yr awr

Cymwysterau / Profiad Gofynnol:

Cymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn Gwaith Chwarae (neu’n barod i weithio tuag at gymhwyster)

Siaradwr Cymraeg (mae cymorth ar gael i ddysgwyr)

Mae’r gallu i yrru yn ddymunol ond nid yn hanfodol

Disgrifiad o ddyletswyddau:

  • Casglu plant yn ddiogel o’r ysgol leol a cherdded gyda nhw i’r clwb
  • Darparu chwarae a gofal o ansawdd i blant mewn amgylchedd diogel, croesawgar, ac ysgogol
  • Sicrhau bod amrywiaeth o adnoddau hwyliog sy’n addas ar gyfer yr oedran ar gael drwy gydol y sesiwn (tu fewn a thu allan)
  • Cefnogi anghenion, diddordebau, a datblygiad unigol plant drwy chwarae
  • Helpu plant i ddatblygu eu hannibyniaeth, hyder, a sgiliau cymdeithasol
  • Dilyn polisïau’r lleoliad trwy’r amser
  • Feithrin perthnasau positif gyda rhieni/ gofalwyr, gan rannu gwybodaeth mewn dull cyfeillgar a phroffesiynol
  • Cyfrannu at gynllunio, trefnu, a gwerthuso gweithgareddau’r clwb
  • Cynorthwyo gyda gosod y lleoliad, tacluso, a chynnal offerynnau ac adnoddau.
  • Mynychu cyfarfodydd staff, sesiynau hyfforddi, a chyfleoedd datblygiad proffesiynol

Sut i ymgeisio: Anfonwch CV at cylchmeithrinygyrnos@outlook.com neu cysylltwch â ni trwy ffonio 07507690863

Lleoliad y swydd: CF47 9PA, Merthyr Tudful

Ymwadiad

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran eu Haelodau.  Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb a delio’n uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.

Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd neu gynnwys yr hysbyseb, nac am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb.  Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw sefydliad arall.

Back to Job Board