16/03/2026 |
Gweithiwr Chwarae Lefel 3 – Little Ferns Kids Clubs, Bro Morgannwg
Dyddiad cau: 30/04/2026
Oriau: Dydd Llun – Gwener, yn ystod y tymor ac amser gwyliau’r ysgol (ar ôl oriau ysgol)
Cymwysterau / profiad gofynnol:
- Mae cymhwyster lefel 3 (neu uwch) mewn Gofal Plant ac/neu Waith Chwarae yn hanfodol.
- Mae profiad blaenorol mewn Gwaith Chwarae yn ddymunol.
- Mae gallu siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol.
- Mae ymrwymiad i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant yn hanfodol. Byddai’r ymgeisydd llwyddiannus angen cael gwiriad DBS Dyrchafedig a darparu geirdaon boddhaol cyn cael ei benodi.
- Rydym yn ymrwymedig i gyfleoedd cyfartal, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys, beth bynnag yw ei hil, rhyw, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, neu oedran.
Disgrifiad o Ddyletswyddau: Rydym yn chwilio am Weithiwr Chwarae gofalgar, brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’n tîm cyfeillgar. Bydd y rôl hon yn cynnwys darparu amgylchedd diogel, croesawus, ac ysgogol lle gall plant ddysgu, chwarae, a datblygu trwy ystod o weithgareddau ysgogol.
Amdan y Rôl: Fel Gweithiwr Chwarae, byddwch yn cefnogi plant rhwng 5-11 (a rhwng 3-12 oed yn ystod clwb gwyliau) drwy ddarparu profiadau chwarae cadarnhaol gan sicrhau eu llesiant a’u diogelwch bob amser.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Darparu gofal a chyfleoedd ymgysylltiol sy’n braf, ac yn plentyn-canolog i blant.
- Croesawu a chofrestru plant, gan sicrhau cyraeddiadau ac ymadawiadau diogel ac esmwyth.
- Cynllunio, trefnu ac arwain amrywiaeth o weithgareddau chwarae sy’n annog creadigrwydd, rhyngweithio cymdeithasol, gweithgaredd corfforol, ac annibyniaeth.
- Ymateb i anghenion unigol, diddordebau a llesiant, gan gynnwys cysur a chefnogaeth lle bo angen.
- Annog ymddygiad cadarnhaol, cyfeillgarwch a chyfathrebiad hyderus.
- Cefnogi arfer cynhwysiad, diwallu anghenion amrywiol y plant, gan gynnwys rhai sydd ag ADY, anabledd, neu anghenion meddygol a diwylliannol.
- Cynnal amgylchedd glan, diogel ac ysgogol, tu mewn a thu allan, gan gynnwys cwblhau asesiadau risg a gwiriadau diogelwch pob dydd.
- Cefnogi plant gyda gofal personol, cymorth cyntaf, hylendid a llesiant cyffredinol lle bo’ angen.
- Adeiladau perthnasau cadarnhaol gyda theuluoedd, gan gyfathrebu mewn dull proffesiynol a sensitif.
- Cyd-weithio gyda chydweithwyr, gwirfoddolwyr a myfyrwyr, gan gyfrannu ar amgylchedd tîm positif,
- Dilyn holl weithdrefnau a pholisïau diogelu, iechyd a diogelwch a sefydliadol.
Beth Rydym yn Chwilio Amdano: Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n angerddol am gefnogi datblygiad plant trwy chware, sydd yn gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm ac sy’n gallu dangos amynedd, creadigrwydd, ac ymrwymedig gwirioneddol i lesiant plant.
Sut i ymgeisio: os ydych yn ymrwymedig, cymhellol ac yn barod i wneud gwahaniaeth cadarnhaol mewn bywydau plant, byddem wrth ein bodd clywed gennych! Anfonwch eich CV a datganiad ategol at littlefernskidsclub@outlook.com neu cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth trwy ffonio 07718 291959
Lleoliad y swydd: Llanilltud Fawr a Bont-faen
Ymwadiad
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran eu Haelodau. Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb a delio’n uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd neu gynnwys yr hysbyseb, nac am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb. Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw sefydliad arall.