
17.02.2025 |
Pleidleisiwch ar-lein yn awr am y gwobrau Clwb All-Ysgol, Gweithiwr Chwarae a Hyrwyddwr y Gymraeg 2025
Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi bod y pleidleisio ar gyfer Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2025 bellach ar agor. Mae’r pleidleisio ar gyfer Clwb y Flwyddyn, Gweithiwr Chwarae’r Flwyddyn a Hyrwyddwr y Gymraeg 2025 sydd ar y rhestr fer, yn awr ar agor tan Ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, a bydd y rhestr lawn o enillwyr pob un o’n 10 categori gwobrau yn cael ei chyhoeddi yn ein Cynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant All-Ysgol ar nos Fercher, Mawrth 12fed 2025.
Cliciwch yma i bleidleisio dros enillydd gwobr Clwb All-Ysgol y Flwyddyn 2025.
Cliciwch yma i bleidleisio dros enillydd gwobr Gweithiwr Chwarae’r Flwyddyn 2025.
Cliciwch yma i bleidleisio dros enillydd gwobr Hyrwyddwr y Gymraeg 2025.
Archebwch yma am noson o ddathlu, gwybodaeth gan amrywiaeth o siaradwyr a chyfleoedd i gysylltu.